Llyfrau Cymraeg rydw i eisiau darllen yn 2025

Gan fod nifer o lyfrau ar fy radar, meddyliaes nawr yw’r amswer gorau i drafod am y straeon Gymraeg rydw i eisiau darllen yn 2025.

Mae cymysgedd o ffuglen a barddoniaeth isod. Nid ydw i’n siwr pam, ond mae’n well gen i farddoniaeth wedi’i hysgrifennu yn yr iaith Gymraeg yn fwy na Saesneg.

Y Gwyliau gan Sioned Wiliam

Broliant:

Pythefnos o wyliau mewn fila yn Umbria… O gwmpas y pwll glas, fe fydd bywyd wedi newid am byth i rhai o’r cymeriadau erbyn diwedd y gwyliau. Mae Endaf a Gwenllian yn edrych ymlaen at gael teulu a ffrindiau i aros yn eu fila hyfryd. Haul a’i hoff bobol – beth allai fod yn well? Ond mae nifer o gyfrinachau’n llechu o dan yr wyneb gwareiddiedig. Nofel gyfoes ac iddi linyn storiol gref.

Rhyngom gan Sioned Erin Hughes

Broilant:

Mae rhyw ysfa anifeilaidd tu mewn i bob un ohonom, a’r ysfa honno’n peri inni fod eisiau dianc rhag rhywbeth o hyd. Ond mae rhai clymau’n rhy dynn i geisio eu datod – perthynas mam â’i merch, dyn â’i famwlad, dynes â’i salwch – ac yn amlach na pheidio, mae’n amhosib torri’n rhydd. Dyma 8 stori sy’n dangos inni werth rhyddid, ac sy’n dangos mai braint, ac nid hawl, yw profi bywyd heb ffiniau.

Mori gan Ffion Dafis

Broliant:

Dydi Morfudd ddim yn deall pobl a dydi pobl ddim wedi trio ei deall hi. Pan mae’n derbyn caes Facebook gan ferch ifanc sy’n byw ei bywyd ar y we, mae natur chwilfrydig Morfudd yn deffro.

Wrth i’w hobsesiwn â’r ferch drydanol yma dyfu fe arfodir Morfudd i wynebu cyfrinachau ei gorffennol. A fydd y clwyfau sy’n byw yn ei chrombil yn ei gyrru i le fydd yn sigo bydoedd y ddwy am byth?

Dim Ond Un gan Meleri Wyn James

Broliant:

Pan fo’r teulu yn cwrdd am ddathliad arbennig mewn bwthyn ar ynys hudolus Enlli, mae’n gyfle prin i ddod ynghyd fel teulu i rai, ond i eraill mae’n orchwyl y mae’n rhaid ei diodde’n anfoddog. Yng nghanol y storm daw dieithryn i’r drws, a daw sawl cyfrinach i’r wyneb yn ystod eu cyfnod clawstroffobig ar yr ynys. Nofel ddirgelwch, am bobl wedi eu hynysu, yn llythrennol, a llofrudd yn eu plith.

Gwawrio gan Tegwen Bruce-Deans

Broliant:

Cyfrol o gerddi gan fardd newydd, Tegwen Bruce-Deans. Mae’n cynnwys cerddi sy’n trafod natur, perthnasoedd, pobl a phob math o bethau eraill. Y mae Tegwen yn rhan o’r sîn farddoniaeth gyda beirdd ifanc beiddgar ac mae ganddi lais aeddfed sy’n amlygu ei hun yn y gyfrol fechan hon. Cynhwysir ei dilyniant o gerddi ‘Rhwng Dau Le’ a enillodd iddi gadair Eisteddfod yr Urdd 2023.


Beth yw eich hoff lyfr Cymraeg? Rhowch wybod i mi isod.

Gallwch chi ffeindio fi ar Twitter, Instagram a Threads – @bookwormgirl_24

ac hefyd ar Bluesky – @emmabookwormgirl


Discover more from bookworm girl

Subscribe to get the latest posts sent to your email.

One thought on “Llyfrau Cymraeg rydw i eisiau darllen yn 2025

Leave a comment